Hollalluog Dduw, ein Tad oll,
Anfon dy Ysbryd Glan i'n harwain i gyd a'n hadnewyddu ar ein taith ysbrydol.
Agor ein llygaid i ganfod dy Ysbryd ar waith;
Iacha lle bo anghydfod a dyro obaith lle bo anobaith.
Dyro lawenydd lle bo tristwch;
Cynorthwya ni i ddirnad y modd i gydweithio fel y bo i ni dderbyn yn wresog Iesu yn Arglwydd ac Yn Iachawdwr o fewn teulu dy Eglwys.
Iddo Ef y byddo yr holl anrhydedd a gogoniant, yr awr hon ac yn oes oesoedd. Amen.
Arglwydd atgyfodedig, trwy dy gleisiau gogoneddus
Tywallt dy ras achubol er mwyn iachau lle bo anghydfod.
A dyro weledigaeth newydd o obaith lle bo ofn ac anobaith;
Bydded i'n calonnau oll losgi drachefn wrth i Ti ledaenu Efengyl bywyd a'n porthi a Bara dy Gorff
fel y gweithiom yn un, gan gydnabod anghenion ein gilydd a llawenychu yn ein cryfderau
fel y bo i eraill ddod i'th adnabod yn Arglwydd a Gwaredwr,
Y Ffordd, y Gwirionedd a'r Bywyd
Yn awr a thros byth. Amen
Argymhellir y defnyddir y ddwy weddi isod wrth i ni ymbaratio ar gyfer y gynhadledd a gynhelir yng Nghaerdydd ar Fedi 21-22 eleni dan y teitl “ Fel Na Choller Dim”. Yr ydym yn dyledus i'r Parchedig Colin Sutton, offeiriad yn esgobaeth Llandaff am lunio y gweddiau hyn.